O ffermio i winoedd da...
Gwen a Rhys Davies, Gwinllan y Dyffryn
Fe wnaethom ni benderfynu cymryd y cam dewr i blannu Gwinllan y Dyffryn ym mis Mai 2019.
Pan wnaethom ni brynu’r cae saith erw y tu ôl i’n cartref, roedd yn amlwg ei fod yn lle arbennig, ac yn haeddu cnwd arbennig … grawnwin gwin. Mae’r cae ar dir isel, oddeutu 80m uwch lefel y môr a chyda llethr sy'n wynebu ychydig tua'r De Orllewin, ac yn elwa ar fwy o olau dydd. Mae hefyd wedi’i leoli mewn glawgysgodfa, ar lefel mymryn yn uwch na llawr y dyffryn, felly mae’r tir yn mwynhau effaith gynhesol y môr sy'n lleddfu effaith unrhyw wyntoedd oer y Gogledd cyn iddyn nhw ein cyrraedd.
Mae’r ddau ohonom yn dod o gefndir amaethyddol helaeth, a bu’r ddau ohonom yn astudio yn Harper Adams. Roedd ein profiad rheoli tir wedi amlygu’r cyfleoedd helaeth i fusnesau ffermio arallgyfeirio eu ffrydiau incwm traddodiadol. A chyda diddordeb cynyddol ledled y byd yn y gwinoedd o safon eithriadol sy'n cael eu cynhyrchu mewn gwinllannoedd yng Nghymru, ynghyd â chefnogaeth a diddordeb gan ein cymuned leol, roeddem yn gwybod ein bod hi’n bryd i ni ymuno â’r sector cyffrous hwn sy'n tyfu'n gyflym a rhoi ein profiad ar brawf.
Amser a ddengys beth fydd ffrwyth ein llafur … mae newid o ffermio anifeiliaid i ffermio grawnwin wedi golygu proses ddysgu eithriadol. Ond mae’r ddau faes yn rhannu’r un nod o ddeall a gwarchod y tir. Felly rydym ni’n ffyddiog. Mae gennym wneuthurwr gwin arbenigol yn barod i gamu i’r adwy, ac rydym wedi plannu chwe rhywogaeth a fydd yn cynhyrchu gwinoedd gwyn, rhosliw, coch a phefriog. Ac ar ôl i’r gwinwydd fwrw’u gwreiddiau, rydym yn gobeithio y bydd defaid Lleyn ein teulu’n pori’r winllan ac yn cynnal iechyd y pridd… ac yn pontio’r bwlch rhwng ein hen fywyd a’n bywyd newydd!
Judith Dudley, Fferm Parva
Ar Fferm Parva, byddwch yn gweld sut cawsom ein henw. Yma, mae ein defaid, gwartheg, merlod, a’n gwinwydd yn cyd-fyw ac yn tyfu gyda'i gilydd. Pan brynon ni’r fferm yn 1996, ein bwriad oedd magu defaid a gwartheg. Bryd hynny, thrawodd o erioed yn ein pennau ni i adfywio’r winllan fach a oedd mewn cyflwr gwael iawn ar ein tir. Fodd bynnag, pan gafodd BSE effaith niweidiol iawn ar y diwydiant ffermio, cafodd ffermwyr eu hannog i arallgyfeirio… a doedd dim angen i ni edrych ymhellach na'r ardd gefn i ddod o hyd i’n hateb.
Roedd ein cefndiroedd garddwriaethol yn hanfodol ar gyfer y fenter hon. Roedd Colin wedi bod yn astudio garddwriaeth yng Ngholeg Brynbuga, a minnau wedi bod yn astudio am flwyddyn yng Ngholeg Garddwriaethol Studley - yn ogystal â bod yn werthwr blodau. Roedd yn rhaid i ni ddysgu llawer iawn mewn amser byr ar y dechrau, ond erbyn 2000 roedden ni’n cynhyrchu cnydau mesuradwy o’r gwinwydd. Fe wnaethon ni sicrhau cymorth y gwindy Three Choirs ar gyfer cynhyrchu ein gwin, ac maen nhw wastad wedi gwneud gwaith rhagorol.
Rydym ni bob amser yn sôn wrth ein hymwelwyr am ochr amaethyddol ein busnes. Bob Ebrill, rydym yn cynnal arddangosfa elusennol o’r enw ‘Come & See the Lambs’, lle gall ein hymwelwyr gwrdd ag anifeiliaid y fferm. Dydyn nhw ddim bob amser yn disgwyl hyn pan fyddan nhw’n dod i winllan, ond mae bob amser yn cyfoethogi eu profiad. Yn gymaint felly, y llynedd fe wnaethon ni godi dros £500 ac fe ddaeth mwy na 300 o ymwelwyr draw i’r fferm. Mae’r winllan hyd yn oed wedi cael ei dangos ar sawl rhaglen deledu, fel The Hairy Bikers a Countryfile.
Yn bersonol, rwy'n teimlo bod bioamrywiaeth yn un o’r pethau sydd wedi bod yn allweddol i’n llwyddiant. Dros y blynyddoedd, rwyf wedi llunio a chategoreiddio rhestrau o’r holl blanhigion, adar, anifeiliaid a phryfed rwyf wedi dod ar eu traws yn y winllan ac o’i chwmpas. Yn amlwg, mae’r gwaith rydyn ni’n ei wneud i gadw’r gwinwydd yn iach yn cael peth effaith ar y bywyd gwyllt, ond mae’n rhyfeddol faint o wahanol rywogaethau sydd yma. I’r perwyl hwnnw, rydym yn gweithio, i’r graddau mae hynny'n bosibl, yn gytûn â byd natur.
