Adolygiad gan Arbenigwr
William Watkins
Pan oeddwn i’n tyfu i fyny yn y Saithdegau, daeth diodydd meddal mewn poteli gwydr mawr y gellid eu dychwelyd ac roedden nhw'n cael eu danfon gan y dyn llaeth. Cafodd y brand Corona ei greu gan ddau groser o Dde Cymru ar ôl iddynt weld marchnad ar gyfer diodydd meddal a achoswyd gan ddylanwad cynyddol y mudiad dirwest. Heddiw, mae diodydd meddal ar gael ym mhob lliw a llun – o boteli plastig a gwydr i Tetra Pak a chaniau – ac mae’r dewis yn enfawr.
Yng Nghymru, mae gweithgynhyrchwyr diodydd meddal yn hynod ffodus o gael lefelau uchel o law a mynediad at ddŵr sy’n hardd a dilychwin. Dyma pam rydyn ni'n enwog.
Eglurodd ymgyrch deledu ddiweddar gan y brand enwog, Fever-Tree, os mai tri chwarter eich diod yw’r cymysgydd, yna dylech ddewis y cymysgydd gorau. Yma yn Radnor Hills, hoffem ddweud os ydych chi eisiau diod meddal neu ddŵr o’r ansawdd gorau, dylech wneud yn siŵr bod 90% ohono’n cael ei wneud gyda’r dŵr sy’n blasu orau, sef
dŵr Cymru. Dyna pam ein bod yn cymryd yr holl ddŵr ffynnon ar gyfer ein cynnyrch o 12 twll turio ar ein tir ym Maesyfed. O fewn munudau i ddod allan o’r ddaear mae'r dŵr yn y ffatri.
Yn ogystal â chael treftadaeth gyfoethog o gynhyrchu diodydd meddal, mae Cymru hefyd ar flaen y gad o ran arloesi diodydd y dyfodol. Rydyn ni newydd lansio dŵr ffynnon pefriog newydd, o’r enw Infusions, wedi’i wneud â blasau cwbl naturiol heb unrhyw siwgr na melysyddion. Mae diodydd meddal tebyg i Seltzer yn newydd sbon i bobl Prydain, ond maen nhw’n dod yn fwy poblogaidd oherwydd mae ein chwaeth wedi datblygu ac rydyn ni eisiau llai o gynnyrch melys.
Diolch i Covid-19, mae’r ffordd rydyn ni’n prynu ein diodydd meddal yn datblygu hefyd. Mae defnyddwyr Cymru yn griw craff ac nid yn unig eisiau cael eu hoff ddiodydd meddal o’r archfarchnad, maent hefyd eisiau gallu prynu’n uniongyrchol gan y gwneuthurwr, pan fyddant yn dymuno.
Rydyn ni wedi dod yn bell ac mae’r dyfodol yn gyffrous. Mae gennym lu o syniadau ar gyfer cynnyrch newydd ac mae'n wych bod gennym ni'r platfform trwy'r digwyddiad Nadolig Diodydd Cymreig i helpu i godi ymwybyddiaeth a hyrwyddo diodydd o Gymru.
William Watkins, Perchennog a Rheolwr Gyfarwyddwr Radnor Hills. Mae Radnor Hills yn weithgynhyrchydd dŵr a diodydd meddal sydd wedi ennill gwobrau ac wedi’i leoli yn Fferm Heartsase ym Mhowys, yn y Canolbarth. Mae’n eiddo i deulu, a dyma’r cwmni diodydd meddal annibynnol mwyaf yn y DU. https://www.radnorhills.co.uk/
