Ryseitiau Coctel
Diod rew Castell Coch
Teyrnged i’r castell coch sydd ychydig filltiroedd o Ddistyllfa Caerdydd.
Coctel jin ffrwythau blasus.
Dathlwch gyda Nadolig Diodydd Cymru!
Cynhwysion:
50ml Jin Caerdydd
25ml Rioja
10ml Surop Siwgr
Ychydig o fefus a mafon
Dŵr Soda
Dull:
Llenwch wydr Copa yn llawn o rew.
Cymysgwch fefus a mafon efo surop mewn peiriant ysgwyd Boston
Ysgwydwch yn gymedrol am 10 eiliad
Hidlwch mewn gwydr
Ychwanegwch y Jin a'r Rioja
Ychwanegwch ychydig o fafon ar ei ben
Cewch ragor o wybodaeth yma https://cardiffdistillery.co.uk/mixology/
Iechyd Da!
Dathlwch gyda Nadolig Diodydd Cymru!
Cynhwysion:
50ml Wisgi Penderyn Madeira
Llwy o fêl Cymreig
10 ml Sudd oren gwaed
2 joch o chwerw oren
Dull:
Tywalltwch yr holl gynhwysion mewn gwydr wisgi, ychwanegwch rew a’i droi.
Mae rhagor o wybodaeth yma https://penderyn.wales/cocktails/
Martini Menai
Dathlwch gyda Nadolig Diodydd Cymru!
Cynhwysion:
37.5ml o Jin Sych Cymraeg Aber Falls
5ml o Vermouth Sych
Addurnwch â Chroen Lemon a Leim
Dull:
Mewn gwydr cymysgu wedi’i lenwi â rhew, ychwanegwch y vermouth, y jin a’i droi am 20-30 eiliad. Gwnewch yn siŵr bod y coctel wedi cyrraedd y tymheredd a ddymunir a’i wanhau cyn hidlo'r coctel mewn gwydr martini sydd wedi’i oeri ymlaen llaw.
Mae rhagor o wybodaeth yma: https://www.aberfallsdistillery.com/cocktails/
Diod Oren Siocled
Dathlwch gyda Nadolig Diodydd Cymru!
Ar gyfer dau o bobl
Cynhwysion:
300ml o laeth llawn braster neu hanner sgim
100ml o hufen dwbl
75g o siocled wedi toddi (neu hanner siocled a hanner yr un faint
o siocled yfed powdr)
Cymysgedd o sbeis: ychydig o glofau, mymryn o bupur du,
ambell ddiferyn o fanila, mymryn o nytmeg a sinamon
70ml o jin Hensol Crawshay Orange Zest
Dull:
Ychwanegwch eich llaeth, eich hufen a’ch siocled (yn ogystal â siocled yfed, os ydych chi’n ei ddefnyddio), ynghyd â’ch cymysgedd sbeis i badell â gwaelod trwchus a’i gynhesu’n ysgafn iawn am tua 10 munud i gymysgu’r hylif gyda’r sbeisys. Ar ôl 10 munud, cynyddwch y gwres a’i godi i ferwi, gan ei droi’n barhaus i wneud yn siŵr bod y cynnwys yn llyfn. Mewn dau gwpan neu wydr atal gwres, ychwanegwch 35ml o’r jin i bob un, yna hidlwch y siocled poeth sbeislyd i'r gwpan dros ben eich jin a’i weini!
Diod Jin Poeth
Dathlwch gyda Nadolig Diodydd Cymru!
Cynhwysion:
40ml o jin Cymraeg o’ch dewis chi
50ml o ddŵr poeth
20ml sudd lemwn wedi’i wasgu’n ffres
1 llwy de o fêl, siwgr neu surop syml
Darn o sinamon a sleisen o lemon neu oren, i'w addurno
Dull:
Cyfunwch eich holl gynhwysion ac eithrio’r addurn a’u cymysgu’n dda (hyd nes y bydd y siwgr neu’r mêl wedi toddi’n llwyr).
Gosodwch addurn arno a'i weini!
Addaswyd o rysáit gwreiddiol ar www.craftginclub.co.uk
Celtic Gin Royale
Dathlwch gyda Nadolig Diodydd Cymru!
Cynhwysion:
25ml Jin Eirin o Gymru
Gwin pefriog o Gymru, i ychwanegu ato
Dull:
Hanner awr cyn i chi fod eisiau gweini eich coctel, rhowch eich gwydrau yn yr oergell i oeri. I wneud eich coctel, ychwanegwch eich Jin Eirin i’r gwydr wedi’i oeri a’i ychwanegu at eich gwin pefriog o Gymru!
