Skip to content
Nadolig gyda Diodydd Cymru

Read in

  • English
  •  
  • Cwrw a Seidr
    • Adolygiad gan Arbenigwr
    • Ble mae prynu
    • Cystadlaethau
    • Adolygiadau a Gwobrau
  • Gwin
    • Adolygiad gan Arbenigwr
    • Ble mae prynu
    • Cystadlaethau
    • Adolygiadau a Gwobrau
  • Gwirodydd
    • Adolygiad gan Arbenigwr
    • Ble mae prynu
    • Cystadlaethau
    • Ryseitiau Coctel
    • Adolygiadau a Gwobrau
  • Di-alcohol
    • Adolygiad gan Arbenigwr
    • Ble mae prynu
    • Cystadlaethau
  • Cystadlaethau
  • Calendr o Ddigwyddiadau
  • Oriel
  • Menu

Ymunwch â’n gweithgareddau rhwng 23 Tachwedd a 11 Rhagfyr

Cadwch olwg allan am lu o weithgareddau a fydd yn cael eu cynnal rhwng 23 Tachwedd a 11 Rhagfyr i ddathlu Nadolig Diodydd Cymru 2020. Gobeithio y bydd rhywbeth o ddiddordeb i chi.
Cliciwch y ddolen ym mhob digwyddiad i gael gweld mwy.


Dydd Llun 23 Tachwedd

Cardiff Distillery

6pm: Distyllfa Caerdydd:
Taith a chyflwyniad brand yn dangos ein holl gynnyrch yn ogystal â rhai o’r prosesau a ddefnyddir i’w gwneud.
https://www.facebook.com/conwyvineyard/

Brecon Brewing

7pm: Brecon Brewing:
Gweld eisiau peint gyda ffrindiau? Ymunwch â phartner Cwrw swyddogol Undeb Rygbi Cymru, Brecon Brewing, am sesiwn fyw o flasu cwrw o’r safon orau.
https://www.facebook.com/BrewingInBrecon/


Dydd Mawrth 24 Tachwedd

Rhymney Brewery

6pm: Rhymney Brewery:
Mae Rhymney Brewery yn dod â’r hen flasau traddodiadol yn ôl gan ddefnyddio dulliau modern a chynhwysion naturiol organig. Mae rhagor o wybodaeth am eu hanes yn y digwyddiad byw yma.
https://www.facebook.com/rhymneybreweryltd/

Sandstone Brewery

7pm: Sandstone Brewery:
Ymunwch â bragdy Sandstone Brewery i gael blasu’n fyw a dysgu mwy am eu cwrw, sydd wedi’u bragu gan ddefnyddio’r cynhwysion gorau yn unig
https://www.facebook.com/Sandstone-brewery-298812313623144/


Dydd Mercher 25 Tachwedd

Red Wharf Bay Vineyard

Slotiau ar gael drwy gydol y dydd
Gwinllan Red Wharf Bay:
Diwrnodau ymweld â Gwinllan a sesiwn blasu gwin am ddim yng Ngwinllan Red Wharf, Ynys Môn. Dewch i flasu’r gwinoedd a gweld beth yw eich barn am ein bagiau lledr a serameg o Sbaen
Pwysig: Oherwydd Covid, cysylltwch â ni ymlaen llaw i archebu slot amser, anfonwch e-bost at: kevin@redwharfbayvineyard.co.uk

Snowdon Craft Beer

7pm: Snowdon Craft:
Dewch i ni archwilio, blasu a rhannu cwrw Snowdonia Craft, gyda digwyddiad blasu ar Facebook Live. Byddwch yn rhan o’r antur
https://www.facebook.com/snowdoncraftbeer/


Dydd Iau 26 Tachwedd

Dyfi Distillery

7pm: Distyllfa Dyfi:
Mae pob swp o gin Distyllfa Dyfi a gynhyrchir yn defnyddio botanegolion prin a thechneg aeddfedu yn y gasgen – ymunwch â’r teulu am sesiwn blasu byw a dysgu popeth am eu gin o safon fyd-eang.
https://www.facebook.com/DyfiDistillery/

Coles Family Brewers

7pm: Teulu Coles
Sesiwn Fyw i Flasu Cwrw a Seidr. Mae bragdy Coles yn cynhyrchu cwrw cyffrous fel cwrw aur, cwrw golau a stowt, ac fe ddechreuodd hyn i gyd nôl yn 1999. Cewch glywed mwy gan y teulu Coles am eu stori a chyfle i fod yn rhan o'r sesiwn blasu cwrw fyw.
https://www.facebook.com/coles.wales/


Dydd Gwener 27 Tachwedd

Grey Trees Brewery

6pm: Bragdy Grey Trees
Ymunwch â Ray a gweddill cymuned y Grey Trees am noson o flasu cwrw fydd yn wledd i'r synhwyrau! Mae’r sesiwn blasu cwrw’n gwbl ryngweithiol – dyma’r cyfle perffaith i ddysgu am gwrw Grey Trees a gofyn unrhyw gwestiynau sydd gennych i Ray ynglŷn â'u cwrw sydd wedi ennill gwobrau!
https://greytreesbrewery.com/

Aber Falls Distillery

7pm: Distyllfa Aber Falls
Digwyddiad blasu ar Facebook Live (Saesneg)
Ymunwch â Distyllfa Aber Falls am sesiwn blasu fyw o'u portffolio sydd wedi ennill gwobrau
https://www.facebook.com/aberfallsdistillery/


Dydd Sadwrn 28 Tachwedd

Cardiff Distillery

7pm: Distyllfa Caerdydd
Ymunwch â chymysgwyr Distyllfa Caerdydd, a fydd yn creu 4-5 o goctels blasus
https://www.facebook.com/cardiffdistillery/


Dydd Sul 29 Tachwedd

Absorb Health

7pm: Absorb Health
Mwynhewch y Nadolig! Ymunwch â Laure o Absorb Health i gael gwybod sut gall bwydydd a diodydd wedi’u heplesu wella’ch system dreulio dros y Nadolig, gydag awgrymiadau syml a ryseitiau hawdd.
https://www.facebook.com/abs0rbh3alth/


Dydd Llun 30 Tachwedd

Sandstone Brewery

7pm: Bragdy Sandstone Brewery
Ymunwch â bragdy Sandstone Brewery am sesiwn flasu fyw ac i ddysgu mwy am eu cwrw, sydd wedi’u bragu gan ddefnyddio’r cynhwysion gorau yn unig
https://www.facebook.com/Sandstone-brewery-298812313623144/


Dydd Mawrth 1 Rhagfyr

Penderyn Distillery (The Welsh Whisky Coy Ltd)

6pm: Penderyn
Dewch i adnabod Penderyn, gyda chyflwyniad i’r brand a thaith o amgylch y ddistyllfa lle gallwch ddysgu mwy am ddulliau distyllu unigryw Penderyn
https://www.facebook.com/penderyn

Monty's Brewery

7pm: Bragdy Monty’s Brewery
Mae Monty's eisiau gwneud yn siŵr bod pawb yn gallu mwynhau cwrw gwych. Ymunwch â’r tîm i flasu eu dewis o gwrw heb glwten, pob un yn gwbl wahanol o ran cymeriad a blas.
https://www.facebook.com/Montysbrewery


Dydd Mercher 2 Rhagfyr

Red Wharf Bay Vineyard

Slotiau ar gael drwy gydol y dydd
Gwinllan Traeth Coch
Diwrnodau blasu gwin ac ymweliadau â'r Winllan yng Ngwinllan Traeth Coch, Ynys Môn. Dewch i flasu’r gwinoedd a gweld beth yw eich barn am ein bagiau lledr a serameg o Sbaen.
Pwysig: Oherwydd Covid, cysylltwch â ni ymlaen llaw i archebu slot amser, anfonwch e-bost at: kevin@redwharfbayvineyard.co.uk

Coles Distillers of Fine Spirits

7pm: Teulu Coles
Sesiwn Fyw i Flasu Gwirodydd. Mae’r teulu Coles nid yn unig yn cynhyrchu cwrw a seidrau ond hefyd gwirodydd - dysgwch fwy am eu dewis eang o wirodydd crefft mewn sesiwn flasu fyw.
https://www.facebook.com/coles.wales/

Snowdon Craft Beer

7pm: Snowdon Craft:
Dewch i ni archwilio, blasu a rhannu cwrw Snowdonia Craft, gyda digwyddiad blasu ar Facebook Live. Byddwch yn rhan o’r antur
https://www.facebook.com/snowdoncraftbeer/


Dydd Iau 3 Rhagfyr

Aber Falls Distillery

7pm: Distyllfa Aber Falls
Digwyddiad blasu ar Facebook Live (Cymraeg)
Ymunwch â Distyllfa Aber Falls am sesiwn flasu fyw o’u portffolio sydd wedi ennill gwobrau
https://www.facebook.com/aberfallsdistillery/


Dydd Gwener 4 Rhagfyr

Absorb Health

6pm: Absorb Health
Mae kefir dwr wedi cael ei hyrwyddo fel diod iach sy’n llawn bywyd yn ystod y blynyddoedd diwethaf - oeddech chi'n gwybod ei fod hefyd yn blasu'n wych fel cymysgydd? Mae coctel iach yn rhywbeth y gall pawb ohonom ei gefnogi!
Ymunwch â Laure o Absorb Health wrth iddi wneud coctels a choctels smalio kefir.
https://www.facebook.com/abs0rbh3alth/

Monty's Brewery

7pm: Bragdy Monty's Brewery
Ymunwch â Monty’s am sesiwn flasu fyw ar Facebook, a dysgwch fwy am eu cwrw Nadolig yn ogystal â'u ffefrynnau.
https://www.facebook.com/Montysbrewery


Dydd Sadwrn 5 Rhagfyr

Cardiff Distillery

6pm: Distyllfa Caerdydd
Ymunwch â distyllwr Distyllfa Caerdydd a fydd yn dangos sut mae 'tywallt y gin perffaith' - ynghyd â gwybodaeth am y profiadau a'r ysgol jin sy’n cael eu cynnal i gyd yn y ddistyllfa
https://www.facebook.com/cardiffdistillery/

Cold Black Label a Lithic Brewing

7pm: Cold Black Label a Lithic Brewing
Mae teulu Brecon Brewing yn cynnwys 3 bragdy, ac mae’r cyfuniad hwn yn golygu bod wastad rhywbeth i rywun. Dyma gyfle i ddod i adnabod y grŵp cyfan yn y digwyddiad blasu byw yma.
https://www.facebook.com/BrewingInBrecon/


Dydd Sul 6 Rhagfyr

Gwinllan Conwy | Vinomondo

6pm: Gwinllan Conwy
Bydd Vinomondo yn ymuno â Colin o Winllan Conwy ar gyfer digwyddiad Nadolig arbennig gwin a bwyd o Gymru, yn fyw ar Facebook
https://www.facebook.com/conwyvineyard/

Velfrey

7pm: Gwinllan Velfrey
Ymunwch â thîm Gwinllan Velffrey yn Sir Benfro wrth i’w gwin cyntaf erioed gyrraedd drwy’r drws.
https://www.facebook.com/VelfreyVineyard


Dydd Iau 10 Rhagfyr

Penderyn Distillery (The Welsh Whisky Coy Ltd)

6pm: Penderyn
Ewch am dro i weld portffolio Distyllfa Penderyn a'u dewis o wirodydd!
https://www.facebook.com/penderyn


Dydd Gwener 11 Rhagfyr

Velfrey

5.45pm: Gwinllan White Castle
Bydd arbenigwyr blasu yn rhoi eu barn am win gwyn pefriog gwinllan Velfrey Newydd
https://www.facebook.com/VelfreyVineyard

Gwinllan Llanerch

6.00pm: Gwinllan Llanerch
Ymunwch â Ryan Davies o Winllan Llanerch am sesiwn blasu gwin ‘Cariad’ yn Fyw ar Facebook
https://www.facebook.com/llanerch.vineyard/

White Castle Vineyard

7.00pm: White Castle Vineyard
Mwynhewch flas unigryw o Gymru yn saff o’ch soffa! Cymerwch lymaid o’ch gwin o Winllan White Castle, tra bydd Sian Roberts, y Tywysydd Teithiau Bwyd a’r Cogydd ar y teledu yn dangos i chi sut mae paratoi cacennau cri blasus ar gyfer yr ŵyl. Dyma ein digwyddiad ar-lein diweddaraf – ymunwch â ni nos Wener 11eg Rhagfyr 2020 am 19.00. Tocynnau am gyn lleied â £15.00
Sesiynau blasu ac awgrymiadau ar gyfer paru gwin gyda Robb o Winllan White Castle. Chris Jones, y Cyflwynydd Teledu a Radio, fydd yn cyflwyno’r noson.
https://lovingwelshfood.uk/online-wine-tastings-welshcakes/


Dydd Sadwrn 12 Rhagfyr

Bwyd a Diodydd Da o Gymru

2.00pm: Bwyd a Diodydd Da o Gymru
Mae cynhyrchwyr bwyd a diod Cymru’n annog ymdeimlad undod y Nadolig hwn drwy gydweithredu i greu cyfres unigryw o focsys a hamperi ar gyfer siopwyr sy’n chwilio am ysbryd Nadoligaidd.
Gwrandewch ar Nigel Barden, Cadeirydd Great Taste, World Cheese and Farm Shop a’r Deli Awards yn sgwrsio â Lynne Rowlands o Daffodil Foods a James Wright o Ddistyllfa Aber Falls Whisky yn disgrifio sut yr aethant ati i greu eu bocsys.
https://www.facebook.com/WelshDrinksChristmas

© Nadolig gyda Diodydd Cymru 2020. Polisi Cwcis.