Adolygiad gan Arbenigwr
Pete Brown
Ni fu erioed amser gwell i fod yn yfwr cwrw yn y DU – erbyn hyn mae mwy na 2000 o fragdai yn gweithredu ar y glannau hyn, i fyny o ddim ond 500 ar droad y mileniwm. Yng Nghymru, mae’r chwyldro hwn o ran bragu’n digwydd o fewn y ffyniant llawer ehangach sy’n digwydd ym mhob man yr ydych ym maes bwyd a diod.
Mae tystiolaeth o fragu yng Nghymru yn dyddio’n ôl i’r seithfed ganrif. Bryd hynny, roedd y cwrw safonol yn gymysgedd o fedd a chwrw, gyda pherlysiau egsotig. Mae rhannau pellaf y sector bragu crefft modern yng Nghymru yn nes at y gwreiddiau hyn nag y byddech chi’n ei feddwl, gyda chynhwysion o lemon i granola a gwymon yn ysbrydoli bragwyr sy’n chwilio’n ddiflino am flasau arloesol.
Ond dim ond un pen i’r sbectrwm ydy hwn. Mae llawer o dafarndai gorau Cymru wedi cael eu sefydlu ers canrif neu ddwy, ac mae pobl yn ymweld â nhw er mwyn chwilio am draddodiad byw. Er bydd rhai yn tybio bod cwrw’n ddim ond yn gwrw chwerw neu’n lager, bydd ystod dda yn cynnwys cwrw aur, cwrw coch, cwrw du a stowt, i gyd gan fragwyr ychydig filltiroedd i ffwrdd.
Fel gŵr o Swydd Efrog a oedd yn ddigon ffodus i briodi merch o Dde Cymru, rwyf wedi hyrwyddo cwrw Cymru yng Ngŵyl Fwyd y Fenni ers blynyddoedd lawer, a hyd yn oed wedi’u paru â cherddoriaeth bandiau sy’n chwarae yng Ngŵyl y Dyn Gwyrdd ym Mannau Brycheiniog. Bob blwyddyn, rwy’n poeni y byddaf yn ei chael hi’n anodd dod o hyd i rywbeth newydd a diddorol, ond dydy hynny heb ddigwydd eto – mae yna bob amser amrywiaeth o gwrw newydd ardderchog i’w harchwilio ac i syrthio mewn cariad â nhw.
Pete Brown. Mae’r Awdur, y Darlledwr, yr Ymgynghorydd a'r un sy'n hoffi Cwrw yn Gadeirydd y British Guild of Beer Writers ar hyn o bryd, sy’n bodoli “…to improve standards of beer writing and extend the public knowledge of beer.”
www.petebrown.net
Adolygiad gan Arbenigwr
Gabe Cook
‘Y Dyn Seidr’
Dywedir yn aml mai De Orllewin Lloegr yw calon gwlad seidr y DU, ond wrth bori ychydig yn y llyfrau hanes gwelir bod gan Gymru bedigri seidr yr un mor anhygoel. Dros y canrifoedd, byddai llawer o ffermydd wedi cael perllan i roi seidr i'r labrwr, y teulu a'r masnachwr a’r gwaith o dyfu afalau yn digwydd ar hyd a lled y wlad.
Mae’r dreftadaeth wych hon yn parhau hyd heddiw. Roedd prosiect ymchwil dwy flynedd, a gwblhawyd yn 2019, yn nodi 73 o fathau penodol ‘newydd’ o Gymru, sy’n cynnwys enwau gwych fel Tanat Reviver a Sweet Jane Ynys Môn.
Heddiw, mae seidrau sydd wedi ennill sawl gwobr yn cael eu gwneud ledled y wlad, o’r Cymoedd yn y De, i Fynyddoedd y Canolbarth a’r holl ffordd i fyny i Ynys Môn. Gall Sir Fynwy hefyd honni mai dyma un o’r rhanbarthau gorau yn y byd am wneud perai , gyda llawer o enghreifftiau prin o berai gellyg clasurol yn cael eu canfod yn y Sir, rhai ohonyn nhw yn fwy na 200 oed!
Archwiliwch beth sydd gan Gymru i’w gynnig a’i wneud yn Nadolig Diodydd Cymru.
Mae Gabe Cook yn hanu o Dymock, pentref bach hanesyddol ar ffin Swydd Gaerloyw/Swydd Henffordd, yng nghanol gwald y seidr.
Ar ôl treulio oes yn niwydiant Seidr gyda Westons Cider, HP Bulmer Ltd, Peckham’s (Seland Newydd) yn ogystal â swyddi amrywiol gyda llawer o gyrff y diwydiant, mae gan Gabe wybodaeth sylweddol y mae bellach yn ei defnyddio i ledaenu'r gair ynglŷn â byd anhygoel seidr a pherai
www.theciderologist.com
