Telerau ac amodau'r gystadleuaeth
- Yr hyrwyddwr yw: Levercliff Associates Ltd (rhif cwmni 0459969) sydd â’i swyddfa gofrestredig yn [The Sawmill Brynkinalt Business Centre, Y Waun, Wrecsam, LL14 5NS].
- Mae'r gystadleuaeth yn agored i breswylwyr y Deyrnas Unedig sydd yn 18 oed neu drosodd heblaw am weithwyr [Levercliff a gwinllannoedd sy'n cymryd rhan yn Wythnos Gwin Cymru] a’u perthnasoedd agos ac unrhyw un sy’n gysylltiedig â threfnu neu feirniadu’r gystadleuaeth.
- Nid oes ffi ar gyfer cystadlu a does dim rhaid prynu unrhyw beth i gymryd rhan yn y gystadleuaeth hon.
- Mae cystadleuydd yn cytuno i gael ei rwymo gan y telerau a’r amodau hyn drwy gymryd rhan yn y gystadleuaeth hon.
- Er mwyn cael mynediad at y gystadleuaeth a manylion ynghylch sut i gymryd rhan ewch i https://welshdrinkschristmas.co.uk/competition
- Dim ond un cais a dderbynnir i bob person. Bydd mwy nag un cais gan yr un person yn cael eu diystyru.
- Bydd y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau ar gael ar dudalen pob cystadleuaeth.
- Ni dderbynnir cyfrifoldeb am unrhyw geisiadau nad ydynt yn cyrraedd am ba bynnag reswm.
- Dyma reolau'r gystadleuaeth a sut i gymryd rhan:
- Cofrestrwch i dderbyn Cylchlythyr Diodydd Cymru dros e-bost
- Gallwch ddad-danysgrifio o’r cylchlythyr ar unrhyw adeg.
- Mae’r hyrwyddwr yn cadw'r hawl i ganslo neu newid y gystadleuaeth (cystadlaethau) a'r telerau ac amodau hyn yn ddirybudd os bydd trychineb, rhyfel, aflonyddwch sifil neu filwrol, gweithred gan Dduw neu unrhyw achos disgwyliedig neu wirioneddol o dorri cyfraith neu reoliad perthnasol, neu unrhyw ddigwyddiad arall sydd y tu hwnt i reolaeth yr hyrwyddwr. Bydd yr hyrwyddwr yn rhoi gwybod i’r cystadleuwyr cyn gynted â phosibl ynglŷn ag unrhyw newidiadau i’r gystadleuaeth.
Nid yw’r hyrwyddwr yn gyfrifol am fanylion anghywir ynghylch y wobr a roddir i unrhyw gystadleuydd gan unrhyw drydydd parti sy'n gysylltiedig â'r gystadleuaeth hon.
- Y gwobrau yw’r hyn a nodir, ac ni fydd arian parod na dewis arall yn cael ei gynnig yn eu lle. Does dim modd trosglwyddo’r gwobrau. Mae'r gwobrau’n dibynnu ar argaeledd ac rydym yn cadw’r hawl i newid unrhyw wobr am un arall o werth cyfartal heb roi rhybudd.
- Bydd enillwyr yn cael eu dewis: gan ddyfarnwr annibynnol sy’n cael ei benodi gan yr Hyrwyddwr.
- Rhoddir gwybod i’r enillydd drwy e-bost a/neu lythyr o fewn 28 diwrnod i’r dyddiad cau. Os na ellir cysylltu â’r enillydd neu os nad yw’n hawlio’r wobr o fewn 14 diwrnod i’r hysbysiad, rydym yn cadw’r hawl i dynnu’r wobr yn ôl gan yr enillydd a dewis enillydd arall.
- Mae penderfyniad yr hyrwyddwr mewn perthynas â phob mater yn ymwneud â'r gystadleuaeth yn derfynol ac ni fyddwn yn gohebu â chi yn ei gylch.
- Mae’r cystadleuydd yn cytuno i gael ei rwymo gan y telerau a’r amodau hyn drwy gymryd rhan yn y gystadleuaeth hon.
- Bydd y gystadleuaeth a’r telerau ac amodau hyn yn cael eu llywodraethu yn unol â chyfraith [Cymru a Lloegr] a bydd unrhyw anghydfodau yn ddarostyngedig i awdurdodaeth lwyr llysoedd [Cymru a Lloegr].
- Mae’r enillydd yn caniatáu i’w [h]enw a llun gael eu defnyddio mewn unrhyw ddeunydd cyhoeddusrwydd, yn ogystal â’i gais. Bydd unrhyw ddata personol yn ymwneud â'r enillydd neu unrhyw gystadleuwyr eraill yn cael ei ddefnyddio yn unol â deddfwriaeth diogelu data cyfredol [y DU] yn unig ac ni chaiff ei ddatgelu i drydydd parti heb ganiatâd ymlaen llaw gan y cystadleuydd.
- Bydd enw’r enillydd ar gael 28 diwrnod ar ôl y dyddiad cau drwy anfon e-bost i’r cyfeiriad a ganlyn: hello@welshdrinkschristmas.co.uk.
- Drwy gymryd rhan yn y gystadleuaeth cymerir eich bod wedi derbyn y telerau a’r amodau hyn.
- Nid yw'r hyrwyddiad hwn yn cael ei noddi, ei gefnogi na'i weinyddu gan Facebook, Twitter nac unrhyw Rwydwaith Cymdeithasol arall, ac nid yw'n gysylltiedig â nhw o gwbl. Rydych yn rhoi eich gwybodaeth i Levercliff Associates Ltd ac nid i unrhyw barti arall. Caiff yr wybodaeth a rowch ei defnyddio ar y cyd â’r Polisi Preifatrwydd canlynol yn https://welshdrinkschristmas.co.uk/privacy-policy
- Ni fydd ceisiadau anghyflawn, annarllenadwy, annealladwy yn ddilys a byddant yn cael eu hystyried yn ddi-rym.
- Mae’n rhaid i bob cais gael ei wneud yn uniongyrchol gan yr unigolyn sy’n cystadlu yn y gystadleuaeth.
- Caiff sbamwyr eu gwahardd.
- Mae'r Hyrwyddwr a darparwyr y gwobrau'n cadw’r hawl i newid y wobr (gwobrau) os bydd amgylchiadau nad oedd modd eu rhagweld.
- Os na fydd y wobr ar gael, mae'r Hyrwyddwr yn cadw'r hawl i gynnig gwobr amgen o'r un gwerth neu ddrutach.
- Bydd eich data personol yn cael ei drin yn gyfrinachol gan Levercliff Associates Ltd, ac ni chaiff ei ddatgelu i unrhyw barti arall at ddibenion marchnata.
- Mae penderfyniad Levercliff Associates Ltd o ran pwy sy’n cael cymryd rhan a’r enillwyr yn derfynol. Ni fydd unrhyw ohebu’n digwydd mewn perthynas â’r gystadleuaeth.
- Bydd gan Levercliff Associates Ltd yr hawl, yn ôl ei ddisgresiwn ac ar unrhyw adeg, i newid neu addasu'r telerau ac amodau hyn, a bydd unrhyw newid o’r fath yn dod i rym yn syth ar ôl postio ar y dudalen we hon.
- Mae Levercliff Associates Ltd hefyd yn cadw’r hawl i ganslo’r gystadleuaeth (cystadlaethau) os bydd amgylchiadau'n codi sydd y tu hwnt i’w reolaeth.
