Skip to content
Nadolig gyda Diodydd Cymru

Read in

  • English
  •  
  • Cwrw a Seidr
    • Adolygiad gan Arbenigwr
    • Ble mae prynu
    • Cystadlaethau
    • Adolygiadau a Gwobrau
  • Gwin
    • Adolygiad gan Arbenigwr
    • Ble mae prynu
    • Cystadlaethau
    • Adolygiadau a Gwobrau
  • Gwirodydd
    • Adolygiad gan Arbenigwr
    • Ble mae prynu
    • Cystadlaethau
    • Ryseitiau Coctel
    • Adolygiadau a Gwobrau
  • Di-alcohol
    • Adolygiad gan Arbenigwr
    • Ble mae prynu
    • Cystadlaethau
  • Cystadlaethau
  • Calendr o Ddigwyddiadau
  • Oriel
  • Menu

Adolygiad gan Arbenigwr

Dominic Roskrow

Dominic Roskrow

Dyma gyfnod cyffrous i wirodydd newydd gan ddistyllwyr bach ac annibynnol ledled y byd. Ond er bod y rhan fwyaf o’r cynhyrchwyr newydd yn ceisio efelychu chwaeth a blasau arweinwyr y farchnad sydd wedi ennill eu plwyf, mae gwneuthurwyr gwirodydd Cymru yn arwain y ffordd o ran arloesi.

Er bod micro ddistyllu yn ffasiynol heddiw, cysylltodd distyllwr wisgi o'r Alban, sef Springbank, â Telfi, ffermwr caws organig o Gymru i wneud y brag sengl organig cyntaf yn y byd 25 mlynedd yn ôl. Ers hynny, ar raddfa fwy, creodd Penderyn, distyllwr o Fannau Brycheiniog wisgi blas unigryw, a gynhyrchwyd ar ddistyllyr arloesol a ddyfeisiwyd yn arbennig ar ei gyfer, sy’n cael ei aeddfedu drwy broses gynhyrchu arloesol.

Mae Penderyn hefyd wedi lansio amrywiaeth newydd o rỳm ffasiynol. Wedi’i gynhyrchu mewn partneriaeth ag entrepreneur o Galiffornia, mae ei berchnogion yn dweud bod blas fel wisgi arno gydag effaith rỳm. Mae hefyd yn rỳm gyda hanes anhygoel.

Mae Cymru ar flaen y gad ar hyn o bryd o ran jin hefyd. Erbyn hyn, mae ganddi dros 20 o distyllfeydd, ac amrywiaeth enfawr o ddiodydd cyffrous ac anarferol. Heb os, mae mwy ar y gweill. Mae distyllfeydd fel llongau tanfor: maent yn cael eu hadeiladu a’u cyflwyno i’r byd gyda ffanffer fawr cyn diflannu wrth iddynt wneud eu gwirod a’u gadael i aeddfedu. Yna, yn ddddddiweddarach, maent yn dod yn ôl i’r wyneb. Pryd a ble fydd y perl nesaf o Gymru'n ymddangos?

Dom Roskrow. Awdur, golygydd ac ymgynghorydd gwirodydd. Golygydd Explore Whisky Australia a The Cask,
Perchennog Gwobrau Wizards of Whisky World Whisky. Aelod o Gyngor Meistri Wisgi
Barnwr y Concours Mondial de Bruxelles. Ceidwad y Quaich and Kentucky Colonel

Twitter @whiskytasting Facebook Dom.Roskrow

© Nadolig gyda Diodydd Cymru 2020. Polisi Cwcis.