Cystadlaethau
Cyfle i ennill taith breifat o amgylch y ddistyllfa yn ogystal â sesiwn blasu – ar gyfer hyd at 6 o bobl yn 2021
Corris Craft Centre, Corris, Machynlleth SY20 9RF
https://www.dyfidistillery.com
Ar ôl 2 flynedd o waith ymchwil ac arbrofi dwys, agorodd y brodyr Cameron Ddistyllfa Dyfi ym mis Mawrth 2016. Mae Pete Cameron yn ffermwr mynydd, yn chwilotwr ac yn wenynwr. Mae wedi byw a gweithio yn ardal Dyfi ers dros 30 mlynedd. Mae Danny Cameron yn weithiwr proffesiynol hynod brofiadol ym maes gwin a gwirodydd, ac mae’n feirniad rheolaidd yng Ngwobrau Gwin y Byd Decanter. Sail ein gwaith yw cyfuniad cynaliadwy o natur, gwyddoniaeth a theulu. I ni, mae cynaliadwyedd nid yn unig yn golygu parchu ein hamgylchedd bregus (sydd yma yn Nyfi yn cael ei warchod hefyd gan UNESCO), ond hefyd creu jin o safon fyd-eang fel bod ein busnes teuluol bach yn cyfrannu at ein heconomi wledig leol.
Dyma'r wobr:
Cyfle i ennill taith breifat o amgylch y ddistyllfa yn ogystal â sesiwn blasu – i’w gymryd yn 2021 ar gyfer hyd at 6 o bobl yng Nghanolfan Grefft Corris, Machynlleth
Dyddiad Cau ar gyfer derbyn ceisiadau: Dydd Llun 4ydd Ionawr
