Skip to content
Nadolig gyda Diodydd Cymru

Read in

  • English
  •  
  • Cwrw a Seidr
    • Adolygiad gan Arbenigwr
    • Ble mae prynu
    • Cystadlaethau
    • Adolygiadau a Gwobrau
  • Gwin
    • Adolygiad gan Arbenigwr
    • Ble mae prynu
    • Cystadlaethau
    • Adolygiadau a Gwobrau
  • Gwirodydd
    • Adolygiad gan Arbenigwr
    • Ble mae prynu
    • Cystadlaethau
    • Ryseitiau Coctel
    • Adolygiadau a Gwobrau
  • Di-alcohol
    • Adolygiad gan Arbenigwr
    • Ble mae prynu
    • Cystadlaethau
  • Cystadlaethau
  • Calendr o Ddigwyddiadau
  • Oriel
  • Menu

Cystadlaethau

Enillwch botel o Rhosliw Pefriog (Rosé Pefriog) mewn bocs cyflwyno

Gwinllan Conwy

Y Gwinwydd, Llangwstenin, Llandudno Junction LL31 9JF
https://gwinllanconwy.co.uk/

Gwinllan sy'n cynnig profiad gwinllan unigryw gyda Pharc Cenedlaethol Eryri yn gefndir godidog i’r cyfan yw Gwinllan Conwy. Plannwyd y winllan gyntaf yn 2012, ac mae wedi tyfu bob blwyddyn, gan gynhyrchu pum math o win, pob un â’u harddull unigol ffres eu hunain. Tarwch olwg ar y nodiadau blasu ar eu gwefan i weld pa un sy’n berffaith i chi! Y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw dyfalu faint o boteli o Rhosliw Pefriog a gynhyrchwyd gennym ar gyfer ein gwin penigamp newydd 2019. Bydd yr enillydd yn cael potel mewn bocs cyflwyno.

Dyma'r wobr:
Mae ein gwin Rhosliw Pefriog gwych yn cael ei gyflwyno mewn bocs rhodd gwyn hyfryd.
Mae’n win rhosliw pefriog cymhleth wedi’i wneud o’r amrywiaeth grawnwin Regent. Mae’n lliw pinc petal, gydag arogleuon ffrwythau coch mâl. Ceir blas ysgafn rosehip, llugaeron a mafon, gyda gorffeniad sidanaidd, cain.

Dyddiad Cau ar gyfer derbyn ceisiadau: Dydd Gwener 11 Rhagfyr 2020

© Nadolig gyda Diodydd Cymru 2020. Polisi Cwcis.