Paru Bwyd a Gwin
Mae Amanda Stuart-Robson o Jabajak yn paru gwinoedd pefriog gwyn a rhosliw o gynhaeaf 2014 gyda brie Pant Mawr a wnaed yn lleol a thalpiau hael o siytni eirin Mair a blodau ysgaw cartref.
Os oes gennych chi ddiddordeb mewn bwyta bwyd blasus Cymreig yn ogystal ag yfed gwin hyfryd o Gymru, yna gwyliwch y syniadau yn y fideo hwn gan Colin a Charlotte Bennet, o Winllan Conwy. Bydd yn sicr yn tynnu dŵr o’ch dannedd.
Mae Colin a Charlotte yn defnyddio amrywiaeth o gynnyrch Cymreig, gan gynnwys cig oen Cymreig gan y cigydd lleol (Meat on the Corner) a Halen Môn yn eu harddangosiadau coginio. Mae’r pryd melfedaidd ysgafn hwn yn gweithio’n dda gyda rondo Conwy.
Ryan Davies o Winllan Llanerch a'r Prif Gogydd Andy Aston gyda gwinoedd blasus i’w hyfed gyda dau bryd bwyd. Maelgi Tandoori’r haf, cyri llysiau a chorbys a Draenogyn Môr Porthcawl o ffynhonnell leol gyda chocos a chregyn gleision gyda hufen gwin gwyn a garlleg. Mae Andy yn defnyddio’r cynnyrch tymhorol a chynaliadwy gorau, fel arfer o’r ardal leol ac mae Ryan yn paru dau win Llanerch yn berffaith â'r prydau hyn.
